Cyhoeddus
A oes gennych ddiddordeb mewn dysgu mwy am Ymchwil Anadlol, ymwneud ag Ymchwil Anadlol neu ddysgu mwy am iechyd anadlol?
Yn RIW rydyn ni’n parhau i adeiladu Rhwydwaith Anadlol Cymru gyfan gadarn sy’n cynnwys GIG, Diwydiant, Academia ac yn bwysicach Cleifion Anadlol a’u gofalwyr.
Bydd datblygu a chynnig system integredig yn caniatau i Gymru gystadlu gyda rhai o’r canolfannau gorau ar draws y DU gan ddenu mwy o ymchwil a buddsoddiad datblygiad, fydd o fudd i ddisgwyliadau iechyd ac economaidd pobol Cymru.
Fel rhan o hyn, rôl allweddol i RIW yw datblygu ymhellach a hwyluso y Grŵp a Rhwydwaith Cynghori Anadlol, sy’n rhoi llais i gleifion a’u gofalwyr yn natblygiad ymchwil ac arloesedd ym maes anadlol.
Mae barn cleifion yn hanfodol yn natblygiad dyfeisiau newydd, triniaethau a strategaethau rheoli clefydau ac felly yn werthfawr i glinigwyr, academyddion, arloeswyr a diwydiant i gyrraedd deilliannau da i’r defnyddiwr.
Os hoffech chi ymgysylltu a chael y newyddion diweddaraf am ein gwaith, fe fydden ni’n falch iawn i glywed oddi wrthych.
Mae yna ffyrdd gwahanol y gallwch ymgysylltu. Fe allwch chi:
- ddod yn wrthrych ymchwil gweithredol mewn prawf clinigol neu
- od yn rhan o ddarparu rhaglenni addysg a hyfforddiant neu
- fod yn aelod o Grŵp Cynghori Anadlol a/neu rhwydwaith ehangach.
Cliciwch isod i gofrestru eich diddordeb mewn cyfranogiad astudio a Grŵp Cynghorol Anadlol.