Gwasanaethau

Fel gweithwyr proffesiynol, clinigwyr wrth eu gwaith ac ymchwilwyr wedi’u lleoli yng Nghymru, mae Arloesedd Anadlol Cymru (RIW) a’i wasanaethau arbennig yn sianel arwyddocaol sy’n cysylltu diwydiant gyda’r ecosystem iechyd a gofal cymdeithasol.

Gall RIW gefnogi eich sefydliad i droi syniad da yn gynyrchion, dyfeisiau a dulliau fydd yn gwella iechyd anadlol a lles yng Nghymru a thu hwnt Os ydych chi naill ai yn:
  • edrych i wella eich cynyrchion, dyfeisiau a thriniaethau anadlol,
  • chwilio am ddirnadaethau gwir fydd o fudd i’ch dyfeisiau a datblygiadau,
  • ymgymryd ag ymchwil fyddai angen cydweithio gyda sefydliadau eraill er mwyn yr effaith gorau neu
  • am gefnogi gweithredu a chyflwyno arbrofion clinigol aml- safle ar draws Cymru,
yna gall RIW helpu. Bydd ein dull ni yn sicrhau bod y Gwasanaethau y byddwn yn ymgymryd â hwy ar eich rhan yn cael eu teilwrio i gwrdd â’ch anghenion. Gweler enghreifftiau o’r gwasanaethau rydyn ni’n eu cynnig.

Wrth weithio’n agos gydag ecosystem anadlol Cymru, ein staff rheng flaen a’n cleifion, fe allwn weithredu fel ‘cysylltydd clinigol’ gan ymgysylltu â sefydliadau masnachol i ddod o hyd i ddatrysiadau newydd i heriau clinigol.

Ymgyngoriaethau Arbenigol
Mae gan ein tȋm, sy’n cynnwys Clinigwyr, Gweithwyr Proffesiynol Allied Health, Ymchwilwyr/Ystadegydd, rheolwyr Prosiect/rhaglen/Grantiau, Perthynas â Diwydiant hanes llwyddiannus ac enw da yn genedlaethol a rhyngwladol ym maes Anadlol ac Ymchwil a Datblygiad.

Bydd ein gwasanaethau ymgynghori yn tynnu ar y cyfoeth hwn o brofiad a gwybodaeth, i ddarparu cyngor i’ch sefydliad i roi gwybod am ddatrysiadau arloesol i heriau iechyd anadlol a lles a datblygiadau a wynebir gennych ac yn awyddus i gynyddu.

Fel rhan o’r gwasanaeth hwn, fe allwn gynghori ar ystod eang o feysydd yn cynnwys cwestiynau ymchwil, methodoleg astudio, proses moeseg, IP, Deillio (Spin-Out), Dichonoldeb a phroses grantiau a datblygiad. Lle byddai eich Sefydliad yn cael budd o arbenigedd ehangach yna gall y Gwasanaeth Ymgynghori ymgymryd â pharatoi ar gyfer sefydlu Bwrdd Cynghori arbennig. Gweler isod.

Byrddau Cynghori Arbennig
Sefydlir Bwrdd Cynghori arbennig sy’n tynnu oddi ar arbenigedd perthnasol a ddewiswyd i gefnogi eich anghenion dynodedig. Gall hyn berthyn i feysydd clefyd arbennig a/neu gweithgareddau trosi, data dadansoddol, dyfeisiau, therapiwteg a thechnolegau newydd yn ogystal â meysydd a nodir yn fanwl o dan ymgynghoriad.

Bydd RIW yn gweithio gyda chi trwy sesiwn Ymgynghori, i gynllunio a sefydlu Bwrdd Cynghori a’i gyfarfodydd a bydd, yn ôl yr angen, yn Cadeirio cyfarfodydd y Bwrdd a rheoli pob swyddogaeth gweinyddol ar eich rhan.

Grwpiau’n Canolbwyntio ar Gleifion
Mae barn cleifion yn hanfodol ar gyfer datblygu dyfeisiau newydd, triniaethau a rheoli strategaethau clefydau ac felly’n werthfawr ar gyfer clinigwyr, academyddion, arloeswyr a diwydiant i gyrraedd deilliannau da i’r defnyddiwr.

Os ydych chi naill ai:

  • angen ymgysylltiad â barn cleifion/gofalwyr anadlol yn y cam cysyniad,
  • angen profiad gwir cleifion mewn amgylcheddau gofal sylfaenol neu eilaidd
  • angen mewnbwn claf/gofalwr i brosiectau gwerthuso,
  • angen mewnbwn i ddatblygu mesurau profiad cleifion dywededig (PREM’s)

yna gall RIW hwyluso’r tynnu hwn ar arbenigedd ein Rhwydwaith Cleifion Anadlol i gynghori lle bo angen.

Gweler Cyhoeddus

Pecynnau Addysg Arbennig

Os ydych chi naill ai’n wyddonydd, arloeswr, myfyriwr yn y sector Gwyddorau Iechyd a Bywyd, gweithiwr gofal iechyd proffesiynol neu mewn rôl marchnata neu fasnachol, fe allwn ni gynnig hyfforddiant anadlol arbennig a phecyn profiad wedi’i gynllunio i’ch anghenion penodol chi.

Gall ein tȋm Addysg a Hyfforddiant helpu eich sefydliad i gwrdd â heriau newydd a llenwi’r bylchau sgiliau yn eich gweithlu neu helpu i ddod â syniadau a safbwyntiau newydd i wella ymhellach y cynyrchion neu ddatblygiad triniaeth neu ddulliau hyrwyddo.

Bydd y rhaglen hyfforddiant yn gyfuniad o brofiadau wedi’u hamserlenni a sesiynau grŵp, wedi’u hwyluso gan aelod o’r Tȋm Arloesedd Anadlol.

Fe all fod rhai cyfleoedd dysgu arbennig nad ydynt yn fanwl yn y rhaglen. Fe fyddwn yn falch i ddatblygu cyfleoedd arbennig i gwrdd ag amcanion dysgu unigryw eich sefydliad.

Rydyn ni’n dechrau ac yn ymgymryd ag ymchwil yn y maes anadlol ac yn cydweithio gyda sefydliadau eraill i gyrraedd y budd gorau posibl parthed datblygiad a darganfyddiad gwyddonol.

Rydyn ni’n cydweithio ar draws yr ecosystem yn cynnwys gyda GIG, Ymchwil Gofal Iechyd Cymru, Academia a phartneriaid diwydiant i fwyhau datblygiad ymchwil, cyfleoedd trosi a gwerthusiadau gan fabwysiadu dull yn seileidig ar ddeilliannau i fesur effaith.

Yn ogystal ag ymgymryd yn uniongyrchol ag ymchwil, mae enghreifftiau o’r gwasanaethau ychwanegol sy’n perthyn i ymchwil a gynigir gennym yn cynnwys

Ceisiadau am Grantiau – Fe allwn chwilio, cynghori, cefnogi a llywio cynigion am grantiau a cheisiadau am gyflwyniadau. Gall hyn gynnwys hefyd cwblhau a chydlynu ceisiadau am grantiau ar y cyd. Os oes diddordeb gennych cysylltwch â ni i drefnu sesiwn ymgynghori yn y lle cyntaf.

Rheolaeth Prosiect – Fe allwn ni ddarparu cefnogaeth arbennig i sicrhau bod cynigion sy’n perthyn i ymchwil a gwerthuso yn cael eu datblygu, eu cyflwyno a’u cyfathrebu’n effeithiol trwy holl gamau cylch y prosiect.

Moeseg – Fe allwn gynghori a llywio/arwain y broses o gyrraedd cymeradwyaeth moeseg. Gweler Cyngor ac Eiriolaeth.

Data dadansoddol – Gallwn gynghori eich Sefydliad parthed fframwaith gadarn a/neu fe allwn ddarparu gwasanaeth data dadansoddol i wella eich gweithgareddau ymchwil.

Diddordeb mewn dod i wybod mwy?

Cysylltwch a’n holi ni am Arloesedd Anadlol Cymru (RIW) a’r gwasanaethau y gallwn eu cynnig i chi.