Yr Achos am Fwy o Arloesedd Anadlol o Safbwynt Data

Mae clefyd anadlol yn cynnwys ystod eang ac amrywiol o gyflyrau y gellir eu gwella ar y cyfan yn cynnwys clefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint (COPD), asthma, bronciectasis, ffeibrosis systig a chanser yr ysgyfaint.

Mae sawl cyflwr arall yn achsoi clefyd rhwystrol yr ysgyfaint: Clefyd Interstitaidd yr Ysgyfaint (yn cynnwys ffeibrosis idiopathig yr ysgyfaint a sarcoidosis), gordewdra, yn ogystal a rhai clefydau niwrogyhyrol. Ymhellach, mae triniaeth ar gyfer haint llwybr anadlol uchaf ac isaf yn cynnwys, tonsilitis, llid y sinysau, y ffliw, a thwbercwlosis angen adnodd sylweddol ar gyfer gofal sylfaenol ac eilaidd. Mae niwmonia yn lladd nifer fawr o bobol, yn cynnwys y rheiny â chyflyrau yr ysgyfaint yn barod.

Penawdau Allweddol

Yn gyffredinol, mae clefyd anadlol yn achsoi un ymhob saith marwolaeth (14%) yng Nghymru.

0%

Mae mwy na 220,000 yn cael triniaeth ar gyfer asthma a 68,840 ar gyfer COPD.

  • Amcangyfrifir fod y nifer o gleifion COPD yng Nghymru, fel y gweddill o’r DU, yn cael eu tan gofnodi yn sylweddol.
  • Mae gan nifer fawr o ardaloedd o fewn siroedd Rhondda Cynon Taf, Merthyr Tydfil, Blaenau Gwent, Wrecsam a Sir Fflint risg cymharol am COPD sy’n sylweddol uwch na’r cyfartaledd yn y DU.
  • Mae canran uwch o gleifion yng Nghymru yn cael triniaeth ar gyfer asthma (6.9%) nag mewn mannau eraill yn y DU.
  • Mae pobol sy’n byw mewn ardaloedd o amddifadedd uchel yn fwy tebygol o dderbyn triniaeth am gyflyrau anadlol nag unman arall yng Nghymru.
  • Mae gan Gymru nifer o 19% sy’n ysmygu a’r nifer o oedolion sy’n gorbwyso neu’n rhy dew yn 59%.
  • Amcangyfrifwyd fod cyfanswm y costau am bob clefyd anadlol yn £165 biliwn yn cynnwys costau annirnad. Mae eithrio costau annirnad yn profi amcangyfrif o gyfanswm costau o £11.1 biliwn sy’n cynrychioli 0.6% o GDP y DU yn 2014.
0
Derbyniadau i’r ysbyty heb eu cynllunio

Mae yna 49,000 o dderbyniadau i ysbytai heb eu cynllunio bob blwyddyn ar gyfer cyflyrau anadlol yng Nghymru gyda’r mwyfarif ohonynt yn dderbyniadau brys. Mae cyfanswm costau derbyniadau cleifion yng Nghymru yn 2013/14 ar gyfer COPD ac asthma yn unig yn dod i dros £250 miliwn.

Cyfanswm cost presgripsiynu ar gyfer meddyginiaeth anadlol yng ngofal sylfaenol GIG Cymru o fis Gorffennaf 2013- mis Mehefin 2014 oedd £85.4 miliwn. Mae’r costau hyn yn perthyn i 5,531,434 o eitemau gafodd eu presgripsiynu. Roedd corticosteroidau wedi’u mewnanadlu (ICS) yn unig yn costio £55.3 miliwn gyda broncoledyddion yn costio £23.6 miliwn.

Er gwaethaf y costau uchod i gategori iechyd anadlol, mae cyfradd cyllid ymchwil at gostau clefyd anadlol o’u cymharu a chlefydau eraill yn hynod o isel. Dim ond 1.68% o gyfanswm gwariant ymchwil y DU a ddosrennir i gategori iechyd anadlol.

0%

Byddai dod o hyd i ffyrdd i atal clefyd anadlol, i’w reoli a’i drin yn fwy effeithiol, yn dod â buddion sylweddol i ddeilliannau iechyd ac yn gydredol yn lleihau baich economaidd sylweddol. Yn ychwanegol, byddai canolbwyntio ar gyfleoedd datblygiad economaidd i’r rheiny sydd am arloesi a datblygu diagnosteg newydd ac effeithiol, dyfeisiau ataliol, a gwell rheolaeth o strategaethau clefydau a thriniaethau yn cael effaith.

Diddordeb mewn dod i wybod mwy?

Cysylltwch a’n holi ni am Arloesedd Anadlol Cymru (RIW) a’r gwasanaethau y gallwn eu cynnig i chi.